Rydym yn darparu cyfrifiaduron, dyfeisiau, meddalwedd ac offer ymylol i fyfyrwyr ag anableddau drwy gynllun Lwfans Myfyrwyr Anabl y llywodraeth. Rydym wedi bod yn un o brif gyflenwyr gwasanaethau Lwfans Myfyrwyr Anabl i’r diwydiant ers 1996. Mae gennym arbenigwyr ledled y DU sydd ar gael i helpu myfyrwyr a chyrff cysylltiedig â chyfarpar Technoleg Gynorthwyol yn ogystal â hyfforddiant a chymorth.

Os ydych chi’n byw yng Nghymru fel arfer (hyd yn oed os ydych chi’n astudio yn Lloegr) byddwch yn cael eich grant Lwfans Myfyrwyr Anabl gan Gyllid Myfyrwyr Cymru. Mae Cyllid Myfyrwyr Cymru yn gweithredu ychydig yn wahanol i Gyllid Myfyrwyr Lloegr, yn unol â rheolau Llywodraeth Cymru, er eu bod ill dau yn dod o dan frand Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr.

Mae gan Gyllid Myfyrwyr Cymru ragor o wybodaeth am y Lwfans Myfyrwyr Anabl. Ewch i’r dudalen Lwfans Myfyrwyr Anabl ar wefan Llywodraeth Cymru https://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/myfyrwyr-israddedig/myfyrwyr-newydd/pa-gymorth-ariannol-sydd-ar-gael/lwfans-myfyrwyr-anabl.aspx

Hyfforddiant Technoleg Gynorthwyol

Yma yn iansyst, mae gennym enw rhagorol am ansawdd ein hyfforddiant, oherwydd mae gan ein tîm cenedlaethol o arbenigwyr Technoleg Gynorthwyol flynyddoedd o brofiad o weithio gyda myfyrwyr. Mae ein hyfforddwyr yn gyfeillgar ac yn amyneddgar, gan ein bod ni’n deall pa mor bwysig yw hi fod pob unigolyn yn teimlo’n hyderus gyda’i feddalwedd a’i offer. Mae ein sesiynau’n cael eu teilwra yn unol â’r myfyrwyr a’u gallu, er mwyn iddyn nhw ddeall sut mae eu cynnyrch newydd yn gweithio yn ôl eu pwysau.

Gofyn am Gymorth

Mae sawl ffordd o ofyn i ni am gymorth…

Anfonwch e-bost atom

Anfonwch neges e-bost i’r swyddfa – info@iansyst.co.uk

Ffoniwch ni ar 01353 881 066

Ffoniwch ni a chael gair ag aelod cyfeillgar o’n tîm cymorth

Anfonwch ymholiad ar-lein

Llenwch ffurflen holi am gymorth ar-lein ar ein gwefan